gwaith micro/autoteatro rotozaza


ETIQUETTE


I wylio FIDEO o Etiquette gan y New York Times, cliciwch yma.


Gallwch hefyd ofyn am y fersiwn Cymraeg. Mae’r darn ar gael yn yr holl ieithoedd canlynol; Saesneg (gwreiddiol a Saesneg Ghana), Portiwgaleg, Iseldireg, Sbaeneg, Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg, Japaneg, Slofeneg, Groeg, Hwngareg, Pwyleg gyda Croateg i ddod yn fuan.

Cliciwch yma i weld manylion llawn cydnabyddiaeth pob iaith.

Mae gwybodaeth ym mhob iaith ar gael yma.


Os ydych chi’n theatr, yn gaffi neu unrhyw sefydliad sydd â diddordeb cynnal Etiquette, cysylltwch â ni yma.


Rhagor o luniau / adolygiadau yma.


"gripping... If the line between audience and performer seems blurred, Rotozaza’s 'Etiquette' erases it entirely."

- New York Times / International Herald Tribune ; darllenwch yr erthygl yn llawn yma.

Mae Etiquette yn brofiad hanner awr i ddau berson mewn lle cyhoeddus. Does neb yn gwylio - nid yw’r bobl eraill yn y caffi neu’r bar yn gwybod amdano. Rydych chi’n gwisgo clustffonau sy’n dweud wrthych chi beth i’w ddweud wrth eich gilydd, neu’n rhoi cyfarwyddiadau i chi ddefnyddio un o’r gwrthrychau sydd wedi’u gosod wrth eich ymyl. Mae’n brofiad hudolus bron - er mwyn iddo weithio, yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw gwrando, ac ymateb yn ôl y gofyn. Mae rhai’n dweud ei fod yn beth da gwneud hwn gyda rhywun rydych chi’n ei adnabod, rhywun y gallwch rannu’r profiad â nhw. Mae eraill yn honni ei fod yn gweithio’n dda gyda dieithryn.


Mae Etiquette yn datgelu’r cyfathrebu rhwng bodau dynol yn ei ffurf mwyaf crai, amrwd a mwyaf delicet, ac mae’n archwilio’r anhawster o droi’n teimladau’n eiriau y gallwn ni ymddiried ynddyn nhw. Mae merch ifanc a hen ddyn yn tywys y rhai sy’n cymryd rhan i mewn i nifer o sefyllfaoedd bychain, yn aml wedi’u benthyg o ffilmiau neu theatr, lle mae bydoedd preifat rhwng dau berson yn gwahanu ac yn ailffurfio dro ar ôl tro. Rydyn ni’n argymell i unrhyw un sy’n bwriadu profi Etiquette wylio’r clip gwych 10 munud o VIVRE SA VIE Godard (ar waelod y dudalen) – ond nid yw’n hanfodol.


Ynghyd â’u gweithiau llwyfan arloesol (Doublethink, Five in the Morning) sy’n cynnwys cyfarwyddiadau i berfformwyr sydd heb ymarfer, mae Rotozaza yn gwahodd y gynulleidfa i roi cynnig arni ei hunan. Mae Etiquette yn cynnig y ffantasi o siarad â rhywun heb orfod meddwl am beth i’w ddweud o flaen llaw, ac o ganlyniad, cewch y wefr o anghofio’ch cyfrifoldeb mewn sefyllfa berfformio. Mae sgwrs yn ryw fath o theatr, lle mae rôl y ‘gynulleidfa’ a’r ‘actor’ yn cael eu cyfnewid a’u plethu heb i chi sylwi.


Ant Hampton a Silvia Mercuriali (Rotozaza) wnaeth greu’r fersiwn gwreiddiol o Etiquette, gyda chefnogaeth Paul Bennun, sylfaenydd a chyfarwyddwr Somethin' Else. Mae Paul wedi ennill gwobrau o fri rhyngwladol, ef yw cyd awdur adroddiad diweddar llywodraeth Prydain a dyfodol cerddoriaeth ddigidol, ac mae wedi gweithio gyda Artangel, John Berger a Theatre de Complicité.



Cydnabyddiaeth lawn pob iaith ar gael yma.


Pecyn Gwybodaeth (yn Saesneg) > (5mb, pdf)


Lluniau’r Wasg – Wedi diweddaru > (20mb, ffeil zip)



_____


Cysylltwch ag Alice Booth o ArtsAgenda gydag unrhyw ymholiadau ynglŷn â chynyrchiadau cyfredol:


alice@artsagenda.co.uk


ArtsAgenda

18 Margaret Street

Brighton  BN2 1TS

+44 (0) 1273 626519

www.artsagenda.co.uk


ariennir gan Arts Council England



    
   

 

Etiquette yn Buenos Aires, llun Nicolas Goldberg